Amserlen Adolygu: Awst-Rhagfyr 2015
11 Awst 2015
Y Comisiynydd yn cyhoeddi datganiad ynglŷn ag ymatebion cyrff cyhoeddus/statudol i’w Hadolygiad (Atodiad A).
Y datganiad yn amlygu bod Llywodraeth Cymru ac AGGCC wedi methu sicrhau’r Comisiynydd bod gwaith ar y gweill neu’n mynd rhagddo eisoes i gyflawni’r canlyniadau i bobl hŷn sydd wedi eu nodi yn Adroddiad y Comisiynydd ar ei Hadolygiad o Gartrefi Gofal.
Awst-Tachwedd 2015
Aros am wybodaeth atodol gan Lywodraeth Cymru a sicrwydd gan AGGCC y bydd y canlyniadau gofynnol yn cael eu cyflawni.
10 Tachwedd 2015
Y Comisiynydd yn cyhoeddi’r datganiad ‘Blwyddyn yn Ddiweddarach’ (Atodiad B), sy’n cynnwys y diweddaraf am ymatebion Darparwyr Cartrefi Gofal i’w Hadolygiad, a rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu y mae cyrff cyhoeddus yn eu cymryd. Y Comisiynydd yn amlinellu hefyd pa waith dilynol y bydd hi’n ei wneud yng nghyswllt yr Adolygiad.
Nid oedd modd i’r Comisiynydd ddarparu diweddariad ynglŷn â sicrwydd o ran y Gofynion ar gyfer Gweithredu a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru, gan nad yw wedi darparu rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu mae wedi eu cynllunio neu sydd ar waith ganddi eisoes er mwyn cyflawni’r canlyniadau gofynnol i bobl hŷn.
Y Comisiynydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i fynegi ei siom ac i nodi ei pharodrwydd parhaus i gynnig cyngor a chymorth er mwyn cyflawni’r camau gweithredu.
27 Tachwedd 2015
Cael llythyr gan y Prif Arolygydd gyda gwybodaeth atodol am Ymateb AGGCC i'r Adolygiad (Atodiad C).
08 Rhagfyr 2015
Llywodraeth Cymru yn darparu ymateb terfynol / gwybodaeth atodol (Atodiad D).
23 Rhagfyr 2015
Y Comisiynydd yn ysgrifennu at Brif Arolygydd AGGCC (Atodiad F) a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Atodiad G) i gadarnhau eu bod bellach wedi rhoi digon o sicrwydd i’r Comisiynydd eu bod wedi cynllunio camau gweithredu neu wedi eu rhoi ar waith eisoes er mwyn cyflawni'r canlyniadau gofynnol i bobl hŷn.